"Cefais fy hun ar y ffôn gyda dynes yr oedd ei babi hi, fel fy un i, wedi marw. 'Dywedwch wrthyf am eich babi,' meddai, ac fe dywalltais fy nghalon i ddieithryn perffaith, gyda phwy roeddwn i'n teimlo cysylltiad ar unwaith." Mam

Mae llawer o rieni yn teimlo mai dim ond eraill sydd wedi profi marwolaeth babi all gynnig gwir ddealltwriaeth. Mae ein rhwydwaith ledled y wlad o dros 104 o Grwpiau cymorth lleol, sy’n cael eu rhedeg fel arfer gan rieni mewn profedigaeth ac aelodau o’r teulu, yn cynnig cyfle i chi gwrdd ag eraill, cael cefnogaeth a rhannu eich profiad.

Os nad oes grŵp yn agos atoch chi, neu y byddai'n well gennych geisio cymorth ar-lein, archebwch le yn un o'n cyfarfodydd cymorth ar-lein: Tocynnau Cyfarfod Cymorth Sands Ar-lein, Dyddiadau Lluosog | Eventbrite.

 

Coordinates
Exit Site